Mae’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod y broses o benodi Cadeirydd newydd i Awdurdod S4C wedi dechrau heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran wrth Golwg360 “nad oes amserlen ar gyfer y penderfyniad” ac y bydd cyhoeddiad am bwy yw’r ymgeisydd llwyddiannus yn “cael ei wneud yn y man”.
Y gred yw y bydd cyhoeddiad ryw ben yr wythnos nesaf.
Maen nhw’n chwilio am gadeirydd newydd yn dilyn ymadawiad John Walter Jones o swydd cadeirydd yr Awdurdod ddechrau mis Rhagfyr.
Mae sawl enw wedi ei gysylltu â’r sedd wag, gan gynnwys yr Is-gadeirydd Rheon Tomos, a chyn brif weithredwr y sianel, Huw Jones.
Yn ôl hysbyseb y swydd, mae’r Adran Diwylliant “yn ceisio unigolyn eithriadol i’w benodi/i’w phenodi yn Gadeirydd Awdurdod S4C”.
Roedd John Walter Jones wedi dweud yn ei lythyr ymddiswyddo “na ellir caniatáu i’r sefyllfa sy’n bodoli yn S4C barhau”.