Pol piniwn golwg360
Mae bron i ddau o bob tri o ddarllenwyr golwg360 yn credu y bydd Cymru’n llwyddo i gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y gwanwyn hwn.

Yn ôl canlyniadau ein pôl piniwn, roedd 63% o bobl yn hyderus y bydd Gatland a’i griw yn llwyddo i ennill eu trydedd bencampwriaeth o’r bron – gyda 37% yn llai hyderus.

Bydd Cymru’n agor eu hymgyrch i amddiffyn y tlws, a enillon nhw mewn steil yn erbyn Lloegr y llynedd, gartref yn erbyn yr Eidal ar 1 Chwefror.

Yna fe fyddan nhw’n herio Iwerddon yn Nulyn, chwarae Ffrainc gartref, teithio i Twickenham i wynebu’r Saeson, cyn gorffen yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn yr Alban.

Mae’r hyfforddwr Warren Gatland wedi enwi carfan brofiadol ar gyfer y gystadleuaeth, wrth i Gymru geisio bod y tîm cyntaf erioed i ennill tair pencampwriaeth o’r bron.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae’n rhy gynnar i allu dweud eto pwy sy’n debygol o ennill y Bencampwriaeth.

Cymru yw’r ffefrynnau gyda’r bwcis o drwch blewyn, ond gyda Ffrainc a Lloegr ddim yn bell tu ôl mae’n amlwg bod disgwyl y bydd hon yn dwrnament agored.

Ac mae gan ddarllenwyr golwg360 bob hawl i fod yn hyderus, gan mai Cymru yw’r deiliaid ac wedi profi’u hunain yn gewri yn hemisffer y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf.

Dangosodd y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr i ennill y bencampwriaeth y llynedd fod chwaraewyr Cymru’n medru perfformio pan oedd y pwysau arnyn nhw – yn ogystal â gwerth y gefnogaeth gartref.

Ond gyda nifer o anafiadau yn y garfan ar hyn o bryd, gan gynnwys Jon Davies, Gethin Jenkins a’r capten Sam Warburton, does dim dal eto pwy fydd y pymtheg a gaiff eu dewis ar gyfer y gêm agoriadol.

Ac a fydd y ffrae bresennol o fewn rygbi Cymru’n chwarae ar feddyliau’r chwaraewyr y gwanwyn hwn? Pwy a ŵyr?

Un peth sy’n sicr – fe fydd cefnogaeth y bechgyn mewn coch mor fyddarol ac erioed!

Canlyniad

A fydd Cymru’n ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni?

Byddwn – 63.04%

Na fyddwn – 36.96%