Mae Elfyn Evans wedi codi i’r pumed safle yn ei rali gyntaf ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd ym Monte Carlo’r bore yma.
Gorffennodd Elfyn Evans yn 11eg yn rhan ‘shakedown’ rali agoriadol y tymor ddoe yn y Ford Fiesta mae’n gyrru i dîm M-Sport.
Doedd y Cymro ddim yn bell o’r 10 uchaf, gyda gyrrwr Volkswagen Sebastian Ogier yn cipio’r amser cyflymaf yn y tywydd clir, a’r gŵr o Ogledd Iwerddon Kris Meeke yn ail.
Chafodd Evans ddim trafferthion yn y Fiesta, gyda gyrrwr arall M-Sport, Mikko Hirvonen, yn gorffen yn seithfed.
Bore llwyddiannus
Ond erbyn bore ma mae Elfyn Evans wedi codi i’r pumed safle, ar ôl tri chymal o’r rali.
Dim ond 14eg y gorffennodd yn y cymal cyntaf, cyn llwyddo i gipio’r seithfed safle yn yr ail ras.
Ond toc cyn 10.30yb yn Ffrainc heddiw, fe lwyddodd i orffen yn ail yn y trydydd cymal yn Montauban sur L’Ouveze, hanner eiliad yn unig y tu ôl i’r enillydd Bryan Bouffier.
Bouffier o Ffrainc sydd yn arwain y rali ar ôl holl gymalau’r bore hyd yn hyn gyda Kris Meeke yn ail, 13.6 eiliad y tu ôl iddo.
Ar hyn o bryd mae Elfyn Evans 46.7 eiliad o gyfanswm y tu ôl i’r brig yn bumed, pedair eiliad yn arafach na’r cyn-yrrwr Fformiwla 1 Robert Kubica sy’n bedwerydd.
Mae tri chymal ar ôl i’w rasio heddiw, gan ddechrau amser cinio, gyda dau ddiwrnod arall o’r rali i ddod.