Bu trafodaethau’n parhau ddoe rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau i geisio datrys yr anghydfod rhwng y ddwy ochr – ond maen nhw’n parhau i fod yn bell o gytuno.

Cadarnhaodd Rygbi Rhanbarthol Cymru (RRC), y corff sy’n cynnal trafodaethau ar ran y Gleision, y Scarlets, y Gweilch a’r Dreigiau, fod y rhanbarthau dal eisiau cymryd rhan yng Nghwpan y Pencampwyr Rygbi.

Dyw’r rhanbarthau ddim eisiau parhau i gystadlu yng Nghwpan Heineken, ac yn hytrach am ymuno â chlybiau Lloegr mewn cystadleuaeth Ewropeaidd newydd o dymor nesaf ymlaen.

Ond dyw’r Undeb dal ddim yn fodlon i hynny ddigwydd, gan ddweud eu bod eisoes wedi ymrwymo i barhau yn y gystadleuaeth bresennol.

Arian wrth wraidd y broblem

Mae’r ddwy ochr hefyd yn dadlau dros sut y mae’r arian yn cael ei ddosbarthu yn y gêm yng Nghymru, gyda’r rhanbarthau yn galw am fwy o gefnogaeth ariannol gan yr Undeb er mwyn cadw’u chwaraewyr gorau.

Fe fethodd y rhanbarthau ag arwyddo cytundeb gyda’r Undeb cyn y terfyn amser ar 31 Rhagfyr 2013, ynglŷn â’r modd y byddan nhw’n cael eu hariannu yn y dyfodol.

Mae’r Undeb nawr wedi cynnig cytundeb ffres iddynt, gyda’r rhanbarthau wrthi’n ystyried y cynnig.

Ac yn ôl RRC, mae’r Undeb wedi’u sicrhau eu bod am geisio dod i ddealltwriaeth ynglŷn â chynllun ar gyfer dyfodol rygbi Cymru cyn diwedd y mis.

Rhanbarthau’n ystyried

Mewn datganiad dywedodd RRC fod y ddwy ochr yn parhau i drafod, a’u bod wrthi’n ystyried cynnig diweddaraf yr Undeb, ond fod angen cytundeb ar y cystadlaethau y bydden nhw’n chwarae ynddynt y tymor nesaf i fod yn rhan o hyn.

“Mae’r rhanbarthau wrthi’n ystyried cynnwys y ddogfen mewn manylder ac fe fyddwn ni’n parhau i drafod gyda’r Undeb, gan gynnwys gofyn am fwy o fanylion, eglurdeb a chadarnhad ar nifer o bwyntiau yn y cynigion er mwyn gweld os oes tir cyffredin,” meddai’r datganiad.

“Mae’r rhanbarthau’n parhau i ymrwymo i sefydlu Cwpan y Pencampwyr Rygbi, fydd yn cynnig £12m o gyllid ychwanegol i rygbi Cymru dros y tair blynedd nesaf.

“Mae’r rhanbarthau wedi cael sicrhad gan URC y byddwn nhw’n ceisio datrys y materion sylfaenol o ddiffinio ac ymrwymo i gystadlaethau cynghrair a chwpan, a chyllid, cyn diwedd y mis.”