Mae Cyngor Ewrop ar Ieithoedd Lleiafrifol wedi cyhoeddi adroddiad sy’n mynegi pryder am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd Cymru.
Mae’r adroddiad yn nodi pryder ynglŷn â darpariaeth y Gymraeg yn y maes addysg, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn awgrymu fod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Yn ôl yr adroddiad, mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth ymysg y mwyafrif di-Gymraeg am ieithoedd lleiafrifol Prydain fel rhan integredig o dreftadaeth ddiwylliannol Prydain.
Mae’r adroddiad cyfan yn ystyried ieithoedd lleiafrifol ledled Prydain a sut mae Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn cael ei weithredu yno.
Gweithredu
Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones sy’n Uwch Ddarlithydd Cyfryngau a Diwydiant Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, nad yw strategaethau’r Llywodraeth yn cael eu gweithredu yn ddigonol:
“Mae pryder yn yr adroddiad ynglŷn â bod llywodraethau lleol ddim yn cynllunio ar gyfer twf a bod ardaloedd fel Ceredigion a Chaerfyrddin wedi gweld nifer y siarad yn gostwng o dan 50% am y tro cyntaf,” meddai ar y Post Cyntaf bore ma.
“Wrth feddwl am ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, mae hi am fod yn allweddol o ran y cyfleodd a’r defnydd sydd o’r iaith, gan mai dyma sy’n mynd i gynnal a chynyddu nifer y siaradwyr.”
Ychwanegodd y cyfreithiwr, Emyr Lewis, oedd yn aelod o’r pwyllgor o arbenigwyr o Gyngor Ewrop a baratôdd yr adroddiad:
“Mae’r adroddiad yn cymeradwyo’r hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran sefydlu fframwaith strategol i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.
“Ond mae’n gofyn i ni symud ymlaen o fod hefo cynlluniau, i weithredu.”
Mi fydd y Llywodraeth nawr yn paratoi ymateb i’r adroddiad.
Argymhellion
Roedd gan yr adroddiad nifer o argymhellion eraill gan gynnwys :-
- Defnyddio ieithoedd lleiafrifol o fewn fframwaith awdurdod lleol neu ranbarthol;
- Caniatáu i ddefnyddwyr ieithoedd lleiafrifol wneud cyflwyniadau ysgrifenedig neu ar lafar yn yr ieithoedd yna;
- Cyhoeddi dogfennau swyddogol gan awdurdodau lleol yn yr iaith leiafrifol berthnasol;
- Y defnydd o ieithoedd lleiafrifol gan awdurdodau lleol mewn trafodaethau neu gyfarfodydd heb eithrio’r defnydd o iaith swyddogol y wladwriaeth.
‘Angen i’r Llywodraeth weithredu’
Mae un o enwadau Cristnogol mwyaf Cymru wedi croesawu’r alwad gan Gyngor Ewrop am yr angen i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith pobl sydd ddim yn siarad yr iaith.
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg hefyd yn cytuno’n gryf bod lle i bryderu am y diffyg darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
“Bu Undeb yr Annibynwyr yn ymgyrchu ers pum mlynedd ar lefel wleidyddol a lleol i fynnu fod siaradwyr Cymraeg yn cael cynnig gofal cymdeithasol a meddygol trwy gyfrwng eu mamiaith; nid yn unig pobl hŷn mewn cartrefi preswyl sy’n haeddu ac angen gofal yn y Gymraeg, ond hefyd plant bach sy’n cael eu magu yn yr iaith,” meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
“Tra’n croesawu strategaeth Llywodraeth Cymru ‘Mwy na Geiriau’ – sydd i fod i hybu’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal – bach iawn o effaith gafodd hyd yn hyn, hyd y gwelwn.
“Mae angen i’r Llywodraeth weithredu trwy sicrhau fod yr adnoddau a’r gefnogaeth ar gael er mwyn symud pethau yn eu blaen.”