Jeff Cuthbert
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau gwerth £1.2 miliwn i roi hwb i undebau credyd.
Mae’r arian yn cael ei roi tuag at ddenu mwy i ymaelodi, addysgu pobl sut i reoli arian a chynlluniau i ddatblygu gwasanaethau, yn ôl y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert.
Mae 73,000 o aelodau gyda’r undebau credyd yn barod ond mae’r cynlluniau yn gobeithio sicrhau bod 6% o’r boblogaeth yn defnyddio undebau credyd erbyn 2020.
Fforddiadwy
“Mae undebau credyd yn ffordd fforddiadwy o fenthyca arian, a gallan nhw fod yn arbennig o addas ar gyfer pobl sydd wedi cael problemau gyda chredyd yn y gorffennol ac sydd ddim yn gallu cael benthyciadau eraill” Jeff Cuthbert.
“Dw i am weld Undebau Credyd yn cynnig amryfal wasanaethau sydd, yn ogystal â denu pobl ar incwm canolig, yn helpu’r rheini sydd ar incwm isel.
“Er enghraifft, dw i am weld undebau credyd yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, megis benthyciadau sydd ar gael yn hwylus, annog pobl i gynilo, a chynnig cymorth cyffredinol ar sut i reoli cyllidebau, yn benodol felly er mwyn helpu pobl i ymdopi â’r trefniadau newydd ar gyfer budd-dal tai.
19 prosiect
Mae cyllid yn cael ei roi i 19 o brosiectau gan gynnwys:
· Undeb Credyd Gogledd Cymru: £679,000 ar reoli ymgyrch farchnata genedlaethol ac i ddenu mwy i ymaelodi.
· Undeb Credyd Merthyr Tudful: £50,000 i hyfforddi dau berson i ddarparu cyrsiau addysg ariannol i ysgolion uwchradd ac i ddenu 300 o bobl ifanc i ddod yn aelodau o undebau credyd.
· Undeb Credyd Smart Money, Caerffili: £88,000 er mwyn lansio cerdyn debyd talu o flaen llaw.