David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud y bydd taliadau bonws gan fanc RBS yn cael eu cyfyngu i £2,000 y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r uchafswm presennol o £2,000 yn parhau ac fe roddodd addewid i wrthod cais i gynyddu’r uchafswm.
Daeth ei sylwadau ar ôl i’r Blaid Lafur alw ar y Llywodraeth, sy’n berchen cyfran o RBS, i wrthod cais gan y banc am ganiatâd i roi taliadau bonws ddwywaith yn fwy na chyflog y staff.
Fe gadarnhaodd David Cameron y byddai’r taliadau bonws yn aros yr un fath y flwyddyn nesaf.