Alun Davies
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (NFU) wedi dweud fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud “poeth o fewn ei gallu” i leihau’r effaith ar ffermwyr, yn dilyn newidiadau mawr yng ngrantiau’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (PAC).

Wrth ymateb i gyhoeddiad Alun Davies ddoe am sut y bydd grantiau o Ewrop yn cael eu dosbarthu i ffermwyr Cymru yn y saith mlynedd nesaf, dywedodd llywydd yr undeb, Emyr Jones: “Rydym ni eisoes wedi mynegi pryder ynglŷn â’r gwaith paratoi sy’n cael ei wneud cyn asesu systemau ariannol newydd, ond rydym ni wedi derbyn fod pa bynnag system newydd am olygu fod nifer o fusnesau yn colli arian mawr.

“Mae’n rhaid i’r Gweinidog rŵan wneud popeth o fewn ei allu i leihau’r effaith ar ffermwyr, yn enwedig y ffermwyr mynydd.”

Cynlluniau i hybu incwm

Dywedodd Emyr Jones ei bod hi’n hanfodol i Alun Davies greu cynlluniau i hybu incwm ffermydd, gan ddefnyddio arian o’r gronfa Datblygiadau Gwledig:

“Mae’n rhaid iddo rŵan ddefnyddio’r arian hwnnw er mwyn cynyddu incwm ffermydd ac i dalu nôl yr arian mae nifer ohonyn nhw’n mynd i’w golli.

“Mae hi hefyd yn bwysig fod y Gweinidog yn ymateb yn bositif i adroddiad Kevin Roberts yn yr wythnosau nesaf.”

Mae grantiau Polisi Amaeth Cyffredinol (PAC) yn cael eu rhoi i ffermwyr er mwyn eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd am brisiau fforddiadwy ac fe gafodd y newidiadau eu gwneud oherwydd bod Cymru’n mynd i dderbyn llai o arian grant gan Ewrop.