Fe fydd dyn 26 oed yn mynd gerbron ynadon Casnewydd bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn arall ym Mlaenau Gwent.

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn marwolaeth Ian Davies, 27 oed, fu farw ar ôl  digwyddiad mewn tŷ yn  Ffordd Marshfield, Trinant, nos Sadwrn, 11 Ionawr.

Cafodd Ian Davies gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, gydag anafiadau difrifol ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae tri o bobl eraill – dyn 26 oed a dwy fenyw 30 a 22 oed – a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.