Cyngor Sir Ddinbych
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu rhoi’r gorau i ariannu Hamdden Clwyd er gwaethaf cais i wneud hynny gan y cwmni.

Fe all y penderfyniad arwain at gau atyniadau’r Heulfan yn Y Rhyl a Chanolfan Nova ym Mhrestatyn a gall 70 o swyddi parhaol a 55 o swyddi tymhorol gael eu colli hefyd.

Penderfynodd y cabinet bod ariannu’r atyniadau yn ormod o risg iddyn nhw a nawr mae ymddiriedolaeth Hamdden Clwyd, sy’n rheoli’r canolfannau ar ran y cyngor,  yn honni eu bod nhw’n wynebu mynd i’r wal.

Ond meddai Cyngor Sir Ddinbych na ddylai colli’r cymhorthdal eu hatal rhag agor yr atyniadau eleni gan fod ganddyn nhw arian wrth gefn.

Mae’r Cabinet wedi cytuno i beidio ag ariannu Hamdden Clwyd o fis Ebrill 2014 ymlaen.

Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o sefyllfa Hamdden Clwyd. Mae gan y cyngor bryderon difrifol am y modd mae’r cwmni a’r atyniadau yn cael eu gweithredu.

Mae gweddill y grant o £200,000 a fyddai’n mynd i Hamdden Clwyd yn 2014/15 am gael ei roi o’r neilltu i hyrwyddo twristiaeth, hamdden a digwyddiadau ar yr arfordir.

‘Cyflwr gwael’

Dywedodd Huw Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Hamdden: “Mae’r Cabinet wedi cymryd y penderfyniad hwn heddiw i beidio ag ariannu’r cwmni ar ôl mis Ebrill ac i beidio â chymryd yr awenau gan Hamdden Clwyd, gan nad oedd gennym unrhyw ddewis, gan fod gennym ormod o bryderon am y modd yr oedd y cwmni’n cael ei weithredu.

“Mae’r adnoddau wedi bod mewn cyflwr gwael ac wedi cael eu gweithredu’n wael ers nifer o flynyddoedd. Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i sicrhau fod unrhyw gwmni sy’n cynnal gwasanaethau ar ei ran yn darparu gwerth am arian gyda safonau da o wasanaeth a gofal cwsmer. Nid dyma yw’r achos gyda Hamdden Clwyd.

“Mae nifer o bryderon difrifol parthed rheolaeth yr atyniadau, cyflogaeth staff, yn ogystal ag ofnau iechyd a diogelwch.

“Yn wir, mae’r cwmni ei hun wedi cydnabod rhai o’r materion hyn ac wedi dod at y cyngor sawl mis yn ôl, yn gofyn i’r cyngor gymryd drosodd y cwmni. Ystyriwyd y cais hwn o ddifrif ond mae gormod o risgiau i wneud hyn.”