John Griffiths
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i gynlluniau i uno CADW a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi cael ei groesawu heddiw.
Roedd cyfnod ymgynghori ynglŷn â’r bwriad ond gan nad oedd yr ymateb yn gadarnhaol, mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wedi penderfynu cadw at y drefn bresennol.
Dywedodd Peter Black, AC y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer de orllewin Cymru: “Rydw i wedi lleisio fy mhryderon ynglŷn â’r bwriad i uno’r ddau gorff sawl gwaith. Nid oeddwn i’n credu mai’r ffordd orau o amddiffyn ein diwylliant oedd rhoi popeth yn nwylo Llywodraeth Cymru.”
Roedd yn pryderu y byddai rôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cael ei wanhau petai’r bwriad i uno wedi mynd ymlaen, meddai.
Dywedodd ei fod wedi gofyn i John Griffiths i roi cymorth i’r Comisiwn Brenhinol fel y gallai ystyried cael statws elusennol. Fe fyddai hynny’n galluogi’r corff i gael arian o ffynonellau eraill, gan weithio gyda phartneriaid posib eraill ac ehangu ei waith yng Nghymru, meddai.