Alun Davies
Mae gweinidog Llywodraeth Cymru dros Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, wedi cyhoeddi newidiadau mawr i’r ffordd y bydd miliynau o bunnoedd o grantiau amaethyddol Ewropeaidd yn cael ei rhannu rhwng ffermwyr yn y dyfodol.
Wrth siarad yn y Cynulliad, amlinellodd y gweinidog ei weledigaeth ar gyfer ffermio yng Nghymru a dywedodd sut y bydd taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael eu dyrannu rhwng 2014-2020.
Dywedodd Alun Davies AC bod y newidiadau wedi eu cynllunio i hyrwyddo cystadleuaeth, i helpu ffermwyr ymdopi â’r anawsterau annisgwyl ac ymateb i gyfleoedd newydd yn y farchnad, ac i gryfhau adnoddau naturiol Cymru.
Meddai Alun Davies: “Mae’r penderfyniadau yma ar bolisi PAC o bwysigrwydd enfawr i Gymru a bydd yn cael effaith sylweddol ar sut yr ydym yn datblygu’r diwydiant amaethyddiaeth a rheoli adnoddau naturiol Cymru hyd at 2020 a thu hwnt.
“Bydd y trefniadau newydd hefyd yn arwain at ddosbarthiad tecach a mwy tryloyw o gyllid, gan symud i ffwrdd o daliadau hanesyddol, a bydd yn helpu sicrhau ein bod yn defnyddio ac yn diogelu ein hadnoddau naturiol yn fwy effeithiol.”
Cafodd y newidiadau eu gwneud oherwydd bod Cymru’n mynd i dderbyn llai o arian grant gan Ewrop. Bydd Cymru’n cael €2.245 biliwn o daliadau uniongyrchol i ffermydd a €355 miliwn ar gyfer cynlluniau datblygu gwledig gan Ewrop.
Mae grantiau Polisi Amaeth Cyffredinol (CAP) yn cael eu rhoi i ffermwyr er mwyn eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd am brisiau fforddiadwy.
Newidiadau
Mae’r newidiadau i’r system yn cynnwys:
– Newid i gynllun taliad sylfaenol newydd dros gyfnod o bum mlynedd. Felly, erbyn 2019, bydd taliadau yn gwbl seiliedig ar faint o dir sy’n cael ei ffermio.
– System dalu sy’n seiliedig ar dri gwahanol fath o dir sydd a gwahanol lefelau o gynhyrchiant amaethyddol. Y rhain yw tir gweundirol (y tir lleiaf cynhyrchiol); Ardaloedd dan Anfantais Fawr; ac un categori ar gyfer Ardaloedd Difreintiedig a’r iseldir (y mathau mwyaf cynhyrchiol o dir).
– Gosod cyfyngiadau ar daliadau mawr.
– Mabwysiadu cynigion gwyrdd y Comisiwn Ewropeaidd sy’n seiliedig ar waith cynnal a chadw glaswelltir parhaol, arallgyfeirio cnydau ac ardaloedd ble mae ffocws ecolegol.
Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 o ffermwyr yng Nghymru’n derbyn y grantiau.
Undeb yn derbyn bod newidiadau’n anochel
Yn ôl Undeb ffermwyr NFU Cymru, roedden nhw’n derbyn bod newidiadau i’r system yn anochel ond maen nhw wedi rhybuddio bod llawer o waith eto i’w wneud.
Meddai Ed Bailey, llywydd NFU Cymru: “Rydym yn falch y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ffermwyr Cymru ddefnyddio’r ystod lawn o opsiynau sydd ganddyn nhw i gyflawni gofynion gwyrdd yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i gymryd rhan yn Glastir, er enghraifft, i gyflawni amodau gwyrdd.
“Er bod y cyhoeddiad heddiw yn gosod fframwaith cyffredinol ar gyfer taliadau uniongyrchol dros y saith mlynedd nesaf, mae llawer o fanylion i’w datrys i sicrhau bod y gwahanol elfennau o’r cynllun newydd, gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â newydd ddyfodiaid ifanc, yn eu lle cyn y bydd y cynllun newydd yn dod i rym mewn ychydig dros 11 mis. “