Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi’i garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth iddyn nhw anelu i amddiffyn eu coron y gwanwyn hwn.

Mae Jonathan Davies a Gethin Jenkins wedi’u henwi er gwaethaf amheuon dros anafiadau, tra bod Jamie Roberts bellach yn holliach ac yn y garfan.

Carfan brofiadol y mae Gatland wedi’i ddewis – gyda dim un chwaraewr sydd eto i ennill cap dros Gymru yn y 32.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i rai o’r chwaraewyr ifanc megis Kristian Dacey, Jake Ball, Hanno Dirksen, a Sam Lewis aros eu tro am nawr.

Ond mae mewnwr y Gweilch, Rhys Webb, yn un o’r rhai sydd yn dychwelyd i’r garfan.

Pôl piniwn: a fydd Cymru’n ennill y Chwe Gwlad?

Penbleth anafiadau

Daeth Gethin Jenkins oddi ar y maes yng ngêm Cwpan Heineken y Gleision yn erbyn Toulon ar y penwythnos gydag anaf i’w ben-glin, gyda’r prop yn disgwyl i weld a fydd yn holliach ar gyfer y gêm gyntaf.

Ac mae’r canolwr Jonathan Davies wedi’i enwi er gwaethaf ofnau y bydd yn methu’r rhan fwyaf o’r Bencampwriaeth ar ôl yr anaf i’w frest a gafodd yn erbyn De Affrica yn yr hydref.

Ymysg y rheiny sydd heb eu henwi oherwydd anafiadau mae maswr y Gleision, Rhys Patchell, a’r clo Bradley Davies.

Gatland yn ôl

Ar ôl gwylio Rob Howley’n arwain y tîm i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y llynedd, dywedodd Gatland wrth gyhoeddi’r garfan ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r bwrlwm.

“Roedd y llynedd yn flwyddyn wych ac rwyf yn edrych ymlaen at fod yn ôl y flwyddyn hon,” meddai Gatland.

“Mae gennym ni gyfle i greu hanes ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn ni’n ffocysu arni ac yn rhoi hwb ychwanegol i ni.

“Rydym ni wedi dewis carfan brofiadol ac wedi cadw pethau’n dynn ar y pwynt yma.

“Mae’n bosib y gwnawn ni ychwanegu un neu ddau o chwaraewyr eraill, ar ôl y ddwy rownd gyntaf, pan maen nhw wedi cael mwy o rygbi o dan eu belt.”

Fe ddywedodd yr hyfforddwr hefyd y byddai’n rhaid i’r garfan geisio anwybyddu’r ffrae sydd yn parhau i rygnu ymysg rygbi Cymru ar hyn o bryd.

“Rydym ni’n gwybod fod yna wleidyddiaeth yn mynd ymlaen ar hyn o bryd,” meddai Gatland. “Ond fe fyddwn ni’n rhoi hynny i un ochr, dod at ein gilydd fel grŵp a ffocysu ar y rygbi, a be allwn ni ei reoli.

“Allwn ni ddim aros nes dechrau’r twrnament gartref yn erbyn yr Eidal. Does dim byd gwell na chwarae yn stadiwm orau’r byd gyda chefnogwyr Cymru y tu ôl i ni’n canu.”

Ar ôl herio’r Eidal yng Nghaerdydd ar 1 Chwefror, bydd Cymru’n teithio i Ddulyn i wynebu Iwerddon wythnos yn ddiweddarach.

Yna fe fyddwn nhw’n wynebu Ffrainc gartref ac yna Lloegr yn Nhwickenham, cyn gorffen eu hymgyrch yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ar 15 Mawrth.

Y garfan:

Blaenwyr: Paul James (Caerfaddon), Gethin Jenkins (Gleision), Ryan Bevington (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Emyr Phillips (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Ian Evans (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton – capten (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Racing Metro), Aaron Shingler (Scarlets)

Olwyr: Rhodri Williams (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), Scott Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Leigh Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets).