Gruff a Daf
Bedair blynedd yn ôl, fe ddaeth y label recordio Gymreig Klep Dim Trep i ben.
Roedd rheolwyr y label, Gruff a Daf, yn teimlo fod pethau wedi mynd yn drech arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio cynnal y label heb swyddfa barhaol.
Ond mae’r ddau gerddor – sy’n gyn aelodau o’r band Eitha Tal Ffranco – wedi cychwyn ail afael ar y gwaith a wnaethon nhw’i ddechrau, a gyda help y cwmni cynhyrchu Ffesant, mi fydd cyfres o bytiau ar y we yn dilyn eu taith.
Llechen lân
“Roedden ni’n teimlo fod yr amser yn iawn – bod ’na ddigon o amser wedi mynd heibio i allu dechra’ ar lechan lân,” meddai Gruff.
“Y tro yma ma’ genna’ ni bethau reit wahanol i gyflawni,” ychwanegodd Daf, heb fanylu dim mwy.
Dywedodd Nico Dafydd a Llio Non o gwmni cynhyrchu Ffesant mai personoliaeth Daf a Gruff a wnaeth eu hysbrydoli nhw at greu cyfres am y ddau ifanc o Arfon.
“Roedd yn gyfle rhy dda i’w golli i ddilyn y ddau ar eu trywydd i weddnewid y sin gerddoriaeth yng Nghymru ac mae’r mewnwelediad dwfn yma o’u ffordd unigryw o weithio yn dyst i hynny.”
Y Label Gymreig ydi enw’r gyfres ac mi fydd y bennod gyntaf ar gael i’w gwylio ar wefan Klep Dim Trep o heddiw ymlaen.