Prifysgol Abertawe (Robert Cuthill CCA 2.0)
Fe fydd 40 o swyddi yn cael eu creu ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu dyfeisiadau a allai droi tai yn orsafoedd pŵer ieddyn nhw eu hunain.
Fe gafodd y Brifysgol becyn nawdd o £2.5 miliwn gan Lywodraeth Prydain ar gyfer arbrofi gyda gorchuddion newydd i ddeunyddiau adeiladu, fel dur a gwydr.
Fe allai’r rheiny olygu bod waliau ac adeiladau’n gallu cynhyrchu, storio a gollwng egni.
‘Sefydliad blaengar’
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan David Willetts, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y Llywodraeth Glymblaid, ac mae’n rhan o brosiect sy’n rhoi nawdd i 19 canolfan newydd trwy wledydd Prydain.
“Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru ac i Abertawe ac mae hi’n braf iawn fod y brifysgol yn cael ei hadnabod fel sefydliad blaengar yn y maes ymchwil,” meddai Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ddwyrain De Cymru, Peter Black.
“Fe fydd enw da’r brifysgol yn tyfu gyda’r gronfa newydd a bydd Cymru yn ymddangos yn le deniadol iawn i fusnesau fuddsoddi.”
“Mae cwmnïau fel Dur Tata yn gweithio gyda’r brifysgol yn barod a bydd y buddsoddiad newydd yma yn siŵr o wella eu perthynas nhw.”