Mick Antoniw - 'dim digon'
Dyw pecyn o iawndal i bobl sy’n diodde o ganser asbestos ddim yn mynd hanner yn ddigon pell, meddai Aelod Cynulliad sydd wedi bod yn ymgyrchu yn y maes.
Mae’r pecyn cymorth a gafodd ei gyhoeddi yn San Steffan wedi’i deilwrio i siwtio’r cwmnïau yswiriant yn hytrach na’r dioddefwyr, meddai Mick Antoniw.
Ac fe allai olygu fod cannoedd o bobol yng Nghymru yn mynd heb gael iawndal teg.
‘Rhy ychydig, rhy hwyr’
Mae Aelod Cynulliad Pontypridd yn dweud fod yr arian – hyd at £115,000 i bob dioddefwr – yn rhy ychydig ac yn methu â mynd yn ôl yn ddigon pell.
Mae’r pecyn wedi ei anelu at ddioddefwyr y salwch mesothelioma sydd heb gyflogwr neu gwmni i hawlio iawndal ganddyn nhw.
Yn ôl Mick Antoniw, a fu’n gweithredu tros ddioddefwyr pan oedd yn gyfreithiwr, mae tua 200 o bobol yn marw o’r salwch yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae hefyd newydd lywio mesur trwy’r Cynulliad i gael cwmniau yswiriant a chyflogwyr i dalu i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am gostau trin clefydau asbestos.
Roedd asbestos yn amlwg mewn diwydiannau trymion lle’r oedd angen insiwleiddio, gan gynnwys llawer o ddiwydiannau mawr Cymru, fel y diwydiant dur.
‘Dim digon’
“Mae’n well na dim ond mae’n brin o’r hyn yr oedden ni’n gobeithio amdano,” meddai Mick Antoniw.
“Mae’n dal i olygu bod y bobol yma’n cael llai nag y bydden nhw’n ei gael trwy’r llysoedd ac yn llawer llai na’r hyn y dylen nhw ei gael.
“Mae’n becyn sydd wedi ei deilwrio ar gyfer y diwydiant ysiwriant a’i ddyfeisio ganddyn nhw.”
Tebyg oedd ymateb yr undebau llafur hefyd i’r pecyn a fydd werth tua £350 miliwn i gyd.
Mesur y Cynulliad
Mae’r mesur i ddigolledu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n mynd o flaen y Goruchaf Lys yn fuan – fe gafodd ei gyfeirio yno gan Gwnsler Cyffredinol y Cynulliad er mwyn gwneud yn siwr na fydd y cwmnïau yswiriant yn gallu ei herio yn y llysoedd.