Llys y Goron Caerdydd
Fe fydd bargyfreithwyr ledled Cymru a Lloegr ar streic fore heddiw mewn protest yn erbyn toriadau’r Llywodraeth i daliadau am waith cymorth cyfreithiol.

Dywed cadeirydd Cymdeithas y Bar Troseddol, Nigel Lithman, na fydd yr un llys yn gallu gweithredu gan fod bron bob siambr yn cefnogi’r streic.

Bwriad y Llywodraeth yw torri £220 miliwn oddi ar y gyllideb cymorth cyfreithiol erbyn 2018/19, a fydd yn golygu toriad o gymaint â 30% yn yr achosion hiraf a mwyaf cymhleth.

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 1,200 o fargyfreithwyr a oedd yn gweithio’n llawn-amser ar waith troseddol sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwyr wedi ennill £100,000 yr un y llynedd.

Mae’r bargyfreithwyr yn gwrthod yr honiadau hyn gan ddweud fod yr enillion am waith cymorth cyfreithiol yn llawer iawn is ar ôl ystyried treth ar werth a chostau.

Dywedodd Nigel Lithman mai tua £36,000 ar gyfartaledd oedd y ffigur cywir ar sail ystadegau’r Llywodraeth ond fod Cyngor y Bar yn amcangyfrif swm is fyth, sef tua £27,000.

“Os bydd toriadau, ni fydd neb o unrhyw allu’n fodlon gwneud gwaith cymorth cyfreithiol,” meddai.

Er bod protestiadau y tu allan i adeiladau llysoedd wedi cael eu trefnu, dywedodd Nigel Lithman fod y bargyfreithwyr wedi ymdrechu i sicrhau y bydd “cyn lleied o darfu ag sy’n gymesur” ar achosion.