Mae llanc wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Aberdâr bore ma.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am lygaid-dystion i’r gwrthdrawiad ar Stryd Cwmbach.
Dywedodd swyddogion fod Volkswagen Polo llwyd a Ford Transit gwyn wedi gwrthdaro ger y llys ynadon am 7am.
Aethpwyd a’r dyn 19 oed o Aberdâr, oedd yn y Volkswagen, a’r dyn 37 oed oedd yn y fan, o Abercynon, i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
“Mae’r dyn 19 oed wedi marw,” meddai llefarydd. “Mae ei deulu wedi cael gwybod.
“Cafodd y dyn 37 oed ei drin am fan anafiadau.”
Cafodd Stryd Cwmbach ei gau am gyfnod, nes 11.50am.
Mae’r heddlu yn apelio am lygaid-dystion ac fe ddylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio 02920 633438.