Mae’r Comisiwn Etholiadaol wedi gwahardd tafarn yng nghefn gwlad Cymru rhag cynnig diod am ddim i bobol oedd yn bwrw pleidlais yn y refferendwm yfory.

Roedd perchnogion tafarn Ffarmers, Llanfihangel y Creuddyn, Rhodri Edwards ac Esther Prytherch, wedi bwriadu cynnig peint am ddim er mwyn annog rhagor o bobol bleidleisio.

Dafliad carreg yn unig sydd rhwng y dafarn yng Ngherdigion a’r orsaf bleidleisio ysgol y pentref.

Ond mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cysylltu â nhw gan ddweud y bydden nhw’n torri’r gyfraith petaen nhw’n bwrw ymlaen â’r cynnig.

‘Libya’

“Y bwriad oedd annog pobol i bleidleisio – yn arbennig ar ôl gweld beth sydd wedi digwydd yn Libya a’r dwyrain canol dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Rhodri Edwards wrth Golwg360.

Dywedodd y ddau nad oedden nhw wedi bwriadu dylanwadu ar sut fyddai pobol yn pleidleisio.

“Pan wyt ti’n gweld pobl yn ymladd ac yn aberthu ei bywydau yn y dwyrain i gael democratiaeth, mae’n bwysig,” meddai.

“Os fydd nifer y bobl sy’n pleidleisio mor isel ag y maen nhw’n rhagdybio, fe fydd yn embaras i Gymru.

“Mae’n bwysig tynnu sylw at yr etholiad. Fe fyddai pawb fyddai wedi dod a cherdyn pleidleisio draw wedi cael diod,” meddai.

‘Dim adloniant’

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol wrth Golwg360 fod y ddeddf yn gwahardd cynnig unrhyw fwyd, diod, neu adloniant arall i ddenu pobol i bleidleisio.

“Cysylltodd y dafarn yng Ngheredigion â ni i ofyn am gyngor am eu syniad,” meddai.

“Ar ôl edrych ar y gyfraith fe wnaethon ni roi gwybod iddyn nhw y byddai’r cynllun yn torri’r gyfraith.”