Katherine Jenkins

Mae’r gantores Katherine Jenkins, 33,  ac Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru ymhlith y 1,195 sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae Katherine Jenkins wedi cael OBE am ei chyfraniad i gerddoriaeth a’i gwaith gydag elusennau; yr actores Ruth Jones, sgriptwraig y gyfres Gavin and Stacey,  wedi cael MBE; ac Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd  wedi cael MBE am ei gwasanaethau i blant a phobl ifanc, a diwylliant Cymru.


Ruth Jones
Mae Geraint Talfan Davies wedi cael OBE am ei wasanaethau i ddarlledu; a Nigel Annett, rheolwr gyfarwyddwr Dwr Cymru wedi cael CBE am ei wasanaethau i’r diwydiant dwr a’i wasanaeth gwirfoddol gyda Wateraid.

Mae Llywydd Cynulliad Cymru, Rosemary Butler AC, wedi cael ei gwneud yn Fonesig. Fe dderbyniodd yr anrhydedd am ei Gwasanaeth Gwleidyddol a Chyhoeddus i Fenywod a Democratiaeth.


Rosemary Butler
Dywedodd bod yr anrhydedd yn profi y gall merched gyrraedd yr uchelfannau mewn bywyd cyhoeddus a’i bod yn gobeithio y bydd yn annog mwy o ferched i fod yn rhan o fywyd cyhoeddus.

Roedd mwy o ferched (51%) na dynion ar y rhestr anrhydeddau eleni.

‘Syfrdanu’

“Rwyf wrth fy modd, ond hefyd wedi fy syfrdanu,” dywedodd Rosemary Butler, 70 oed.

“Nid fy ngwaith i yn unig yw hwn a hoffwn ddiolch i’r holl bobl yr wyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy dros nifer o flynyddoedd .

“Rwy’n awyddus iawn i annog mwy o fenywod i fywyd cyhoeddus ac rydw i wedi gweithio gyda rhai pobl anhygoel sy’n rhannu’r angerdd hwn.

“Mae fy nyled yn fawr i’r unigolion hynny sydd wedi gweithio’n ddiflino heb unrhyw dâl neu wobr ychwanegol.

“Mae’r anrhydedd yma hefyd i fy nheulu sydd wedi fy nghefnogi a’m hannog dros y blynyddoedd. Ni allwn fod wedi gwneud y gwaith yma hebddyn nhw . ”

Fe ddechreuodd ei gyrfa wleidyddol ddeugain mlynedd yn ôl, gan gynnwys cael ei hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd ym 1999. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu Cymru fel Gweinidog dros Addysg cyn-16, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, ac fel Llywydd.

Anrhydeddau eraill

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu mae’r meddyg fu’n bresennol yn ystod genedigaeth y Tywysog George, Marcus Setchell; yr actores Penelope Keith; a rhieni Jimmy Mizen, y bachgen a gafodd ei lofruddio.