Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn hyrddio hyd at 80 milltir yr awr wedi achosi problemau mewn sawl rhan o Gymru heddiw.

Cafodd trenau eu canslo, ffyrdd eu cau a chartrefi eu difrodi gan lifogydd. Bu’n rhaid pwmpio dŵr o gartrefi yng Nghaergybi a Llanberis yn y gogledd ac ym Maerdy yn y Rhondda.

Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, bu’r gwasanaethau brys  yn pwmpio dŵr o gartrefi yn Llanfaes, Aberhonddu a Chwmann ger Llanbed.

Yn Sir Fynwy bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys achub tri o bobl ar ôl i’w car fynd yn sownd yn y dŵr.

Roedd un lon ar gau ar yr M48 ar Bont Hafren oherwydd gwyntoedd cryfion, tra bod coeden wedi disgyn gan rwystro traffig ar yr A465 yn Sir Fynwy.

Bu’n rhaid cau’r A475 yng Ngheredigion a’r A487 yn Sir Benfro hefyd oherwydd bod coed wedi cwympo i’r ffordd.

Roedd cyfyngiad cyflymder o 30mya mewn grym ar Bont Britannia yn Ynys Môn oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Roedd teithwyr yn cael cynnig gwasanaeth bws ar ôl i’r trenau gael eu canslo rhwng Aberdâr a Fernhill oherwydd llifogydd yng Nghwmbach, a rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog oherwydd llifogydd yn Llanrwst.

Bu’n rhaid canslo trenau hefyd rhwng Treherbert a Phontypridd oherwydd llifogydd yn Nhrehafod.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl rhagor o law trwm a gwyntoedd cryfion ar Nos Galan gyda’r tywydd garw yn parhau ar Ddydd Calan.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd bod disgwyl i rybuddion llifogydd fod mewn grym  ar Nos Galan yn enwedig yn ne Cymru a de Lloegr.