Gwersyll ffoaduriaid yn Syria Llun: Achub y Plant
Mae gweinidog Ceidwadol wedi galw ar y Llywodraeth i ystyried rhoi lloches i ffoaduriaid o Syria ar frys.
Mae’r Iarll Howe wedi dweud bod Prydain yn wlad sydd, yn draddodiadol, wedi rhoi cymorth i bobl mewn angen ac mae mynnu na ddylai hynny newid.
Daw ei sylwadau ar ôl i arweinydd Ukip Nigel Farage ymuno a’r galwadau ar y DU i ddechrau rhoi lloches i’r miliynau o bobl yn Syria sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd y rhyfel yn y wlad sydd wedi para ers bron i dair blynedd.
Yn gynharach y mis hwn fe ddywedodd Amnest Rhyngwladol y dylai’r Llywodraeth deimlo “cywilydd” am beidio rhoi lloches i’r ffoaduriaid.
Dywedodd Iarll Howe ar BBC 5 bod angen edrych ar y mater “ar frys.”
“Mae ’na bobl sydd mewn angen dybryd, ond ni allwn ni roi lloches iddyn nhw i gyd. Rwy’n credu bod gan yr Undeb Ewropeaidd ddyletswydd i edrych ar yr hyn y gall wneud i helpu’r ffoaduriaid a hefyd sut y gallwn ni roi lloches iddyn nhw.”
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw ar y gymuned ryngwladol i roi cymorth dyngarol i’r ffoaduriaid yn ogystal â rhoi cyfle iddyn nhw ail-sefydlu eu hunain tu allan i Syria.
Ond mae gweinidogion yn mynnu mai’r ffordd orau i’w helpu yw drwy roi cymorth ariannol i’r rhai sydd wedi eu heffeithio yn Syria yn ogystal â’r rhai sydd wedi ffoi i Wlad yr Iorddonen, Libanus, Twrci ac Irac.
Mae’r DU wedi rhoi £500 miliwn o gymorth dyngarol i Syria – mae £217m yn cael ei wario yn Syria, a £236m yn cael ei roi i’r gwledydd sy’n ffinio Syria.