Mae’r salwch stumog norofirws wedi cau dwy ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Mae un ward yn yr ysbyty wedi cau ac mae ward arall wedi’i heffeithio’n rhannol yn dilyn achosion o’r haint.

Cafodd tair ward eu cau ar 20 Rhagfyr oherwydd y nifer uchel o gleifion oedd yn dioddef o’r firws.

Mae pobl sydd â symptomau  norofirws yn cael eu cynghori i ffonio’r ysbyty ymlaen llaw  os oes ganddyn nhw apwyntiad neu os ydyn nhw’n  disgwyl cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynghori pobl sydd wedi cael symptomau dros y 48 awr ddiwethaf i beidio ag ymweld ag eraill yn yr ysbyty.

Prif symptomau norofirws yw cyfog sydyn, poen yn y stumog a chwydu a/neu ddolur rhydd difrifol. Gall hefyd achosi ychydig o dwymyn, cur pen, crampiau stumog a choesau a breichiau poenus. Fel arfer mae’r symptomau yn cychwyn rhwng 12 – 48 awr ar ôl i rywun ddal yr haint, a bydd pobl fel arfer yn gwella o fewn diwrnod i dri.