Mae corff dynes wedi cael ei ddarganfod o dan bont yn Y Waun ger Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle ar yr A483 ger bwyty McDonald’s ar gylchfan Halton am 1.30yh brynhawn dydd Llun.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Mae Heddlu’r Gogledd yn trin ei marwolaeth fel un anesboniadwy ac fe fydd y crwner yn cael ei hysbysu. Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei henw hyd yn hyn.

Bu’n rhaid cau rhan o’r A483 ger y safle lle cafwyd hyd i gorff y ddynes ond mae bellach wedi ail-agor.