Mae merch a gafodd ei hanafu’n ddifrifol ar ôl i’w char daro yn erbyn wal ger Aberteifi wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd y gyrrwr 19 oed, o ardal Aberteifi, wedi cael anafiadau difrifol ar ôl i’w char Volkswagen Polo daro wal ar yr A484 rhwng Llechryd a Chenarth ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd merch ifanc oedd yn teithio yn y car ei chludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yng Nghaerdydd lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y gyrrwr ei chludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin lle bu farw ddoe.

Dywed yr heddlu bod difrod sylweddol wedi’i achosi i’r car yn y ddamwain a ddigwyddodd toc wedi 1.30yh.

Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.