Belfast
Mae cynrychiolwyr y pum brif blaid wleidyddol ym Melfast dan bwysau cynyddol i ddod i ryw fath o gytundeb ynglŷn â gorymdeithiau a baneri fel rhan o broses heddwch Gogledd Iwerddon erbyn diwedd y dydd.
Mae disgwyl i gyn lysgennad yr Unol Daleithiau Richard Haass ddychwelyd i America yfory gan olygu bod yn rhaid i’r pleidiau ddod i gytundeb erbyn heddiw.
Mae’r Tŷ Gwyn ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Theresa Villiers eisoes wedi annog y pleidiau i ddod i gytundeb.
Mae’n debyg mai un o’r meini tramgwydd yw’r dadleuon ynghylch chwifio baner Jac yr Undeb uwchben Neuadd y Ddinas ym Melfast.
Un o’r materion eraill sydd dan sylw yw penodi corff newydd yn lle’r Comisiwn Gorymdeithiau a gafodd ei benodi gan y Llywodraeth.
Cafodd y comisiwn ei feirniadu ar ôl ail-gyfeirio gorymdaith gan deyrngarwyr o ardal genedlaetholgar Ardoyne yng ngogledd Belfast yn ystod yr haf y llynedd. Roedd yn dilyn blynyddoedd o drais yn ystod yr orymdaith ar 12 Gorffennaf.
Wrth iddo fynychu’r trafodaethau’r bore ma dywedodd Gerry Kelly o Sinn Fein ei fod yn ffyddiog bod modd datrys y materion dan sylw.