Michael Schumacher
Ni fyddai’r cyn bencampwr rasio ceir, Michael Schumacher, wedi goroesi’r ddamwain sgïo oni bai ei fod yn gwisgo helmed, meddai meddygon heddiw.

Mae Schumacher, 44 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol ar ôl cael anaf difrifol i’w ben tra’n sgio yn Meribel yn yr Alpau yn Ffrainc ddoe.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.

Mae meddygon yn Grenoble yn Ffrainc wedi cadarnhau ei fod wedi cael llawdriniaeth ar ei ymennydd ers y ddamwain a’i fod bellach mewn coma yn yr uned gofal dwys.

Maen nhw’n dweud bod yr helmed roedd yn gwisgo ar y pryd wedi ei warchod “rhywfaint” ac na fyddai wedi goroesi’r ddamwain oni bai ei fod yn ei wisgo.

Ond dywedodd yr Athro Jean Francois Payen, mewn cynhadledd newyddion yn Ysbyty’r Brifysgol yn Grenoble, ei fod yn rhy gynnar i ddweud beth yw’r rhagolygon ar gyfer y cyn bencampwr Fformiwla Un.

Mae teulu Michael Schumacher gydag ef yn yr ysbyty.

Yn y cyfamser mae llu o negeseuon wedi cael eu hanfon ato, gan gynnwys un gan gyn bencampwr F1 Prydain, Jenson Button.

Dywedodd ar Twitter: “Mae fy meddyliau gyda Michael Schumacher yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae gan Michael, mwy nag unrhyw un arall, y cryfder i ddod dros hyn.”