Kyle Vaughan
Dywed ditectifs eu bod nhw’n parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd i ddyn 24 oed a ddiflannodd union flwyddyn yn ôl i heddiw.
Cafodd Kyle Vaughan ei weld y tro olaf yn ei gartref yn Nhrecelyn ger Caerffili ar 30 Rhagfyr y llynedd.
Cafwyd hyd i’w gar Peugeot 306 lliw arian ar yr A467 yn y Cymoedd yn ddiweddarach yr un noson. Roedd ei gar wedi cael ei ddifrodi.
Mae Heddlu Gwent wedi bod yn chwilio am ei gorff a’r person neu’r rhai a allai fod wedi ei ladd ers hynny.
Blwyddyn ers iddo ddiflannu mae’r heddlu wedi apelio unwaith eto ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Peter Jones, bod yr ymchwiliad wedi bod yn un dwys a’u bod yn parhau i geisio darganfod beth ddigwyddodd i Kyle Vaughan flwyddyn yn ôl.
Fel rhan o’r ymchwiliad mae wyth o bobl wedi cael eu harestio, gan gynnwys dau ddyn o’r Coed Duon, ar amheuaeth o lofruddio. Maen nhw i gyd wedi cael eu rhyddhau ar wahân i’r ddau ddyn, 25 a 27 oed, ac un person arall, sy’n parhau ar fechnïaeth.
Ychwanegodd ei fod yn gyfnod hynod o anodd i’w deulu a’i ffrindiau.
“Mae rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd y noson honno ac rwy’n eu hannog i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw. Gallen nhw wneud hynny drwy ffonio 101 neu’n ddienw drwy Taclo’r Tacle ar 0800 555111.”