Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Fe fydd angladd breifat yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn cael ei chynnal ym Mae Colwyn heddiw.
Bu farw Wyn Roberts yn 83 oed yn gynharach y mis hwn.
Roedd wedi bod yn AS Conwy am 27 o flynyddoedd – o 1970 tan 1997 – cyn cael ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi.
Roedd yn is-weinidog yn y Swyddfa Gymreig trwy gyfnod Margaret Thatcher ond chafodd e erioed ei wneud yn Ysgrifennydd Cymru.
Roedd yn allweddol wrth basio Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993 a phasio’r ddeddf i sicrhau fod pob disgybl ysgol uwchradd yn gwneud Cymraeg hyd at TGAU.
Yn ôl cyn arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, roedd yn un o’r ychydig Geidwadwyr ar ôl oedd yn dangos cydwybod gymdeithasol a gweledigaeth Gymreig.
A dywedodd Cadeirydd S4C mai ef oedd ‘angel gwarcheidiol’ y sianel tros y blynyddoedd.