Fe fydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r ffordd mae heddluoedd yn cofnodi troseddau er mwyn ceisio lleddfu ar bryderon y cyhoedd nad yw nifer o droseddau’n cael eu hymchwilio’n iawn gan yr heddlu.
Bydd y system newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru a Lloegr ar ddechrau’r flwyddyn newydd.
Yn ôl y Gweinidog Plismona Damian Green fe fydd yn gwneud y ffordd mae troseddau’n cael eu hymchwilio yn fwy tryloyw.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi mynegi pryder gan gyhuddo’r Llywodraeth o geisio cuddio effaith y toriadau ar ffigurau troseddau.