Y bws wedi'r ffrwydrad yn Volgograd
Mae o leiaf 14 o bobl wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad ar fws yn Volgograd yn Rwsia, yn ôl gwasanaethau brys y wlad.

Daw’r ffrwydrad ddiwrnod yn unig ar ôl i hunan-fomiwr ladd o leiaf 17 o bobl mewn gorsaf drenau yn y ddinas.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yn hyn ond maen nhw’n cael eu hystyried fel gweithredoedd terfysgol.

Mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi galw am dynhau diogelwch mewn meysydd awyr a gorsafoedd bysys a threnau wrth i’r wlad baratoi i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi ym mis Chwefror.