Michael Schumacher

Mae’r cyn bencampwr rasio ceir Michael Schumacher mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl damwain sgïo yn yr Alpau yn Ffrainc.

Cafodd  cyn bencampwr Fformiwla Un ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn dilyn y ddamwain tra’n sgïo yn Meribel.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Grenoble bod Schumacher, 44 oed, wedi cael anaf difrifol i’w ben a’i fod wedi cael llawdriniaeth frys.

Yn ôl llefarydd ar ran Michael Schumacher, roedd yn gwisgo helmed pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd Schumacher wedi ennill pencampwriaeth Fformiwla Un saith gwaith cyn iddo ymddeol yn 2012.