Arlywydd Syria, Bashar Assad (Rakkar CCA 3.0)
Mae llywodraeth Syria wedi lladd dros 500 o bobl mewn ymosodiadau o’r awyr ar ddinas Aleppo yng ngogledd y wlad dros y pythefnos ddiwethaf, yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol.

Dywed y mudiad Syrian Observatory for Human Rights, sy’n gweithredu o Brydain, fod y cyrchoedd awyr wedi lladd o leiaf 517 o bobl, gan gynnwys 151 o blant a 46 o ferched rhwng 15 Rhagyr a hanner nos neithiwr.

Mae awyrennau’r arlywydd Bashar Assad wedi bod yn targedu ardaloedd o’r ddinas ranedig sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr, a hynny’n aml gyda bomiau amrwd sy’n creu dinistr anferth wrth ffrwydro.

Mae’r mudiad yn cofnodi’r gwrthdaro trwy rwydwaith o ymgyrchwyr yn y wlad.

Nid yw llywodraeth Syria wedi gwneud unrhyw sylw ar y cyrchoedd yn Aleppo.