Mae dau arolwg barn yn dangos agweddau cymysg at y cynnydd disgwyliedig mewn mewnfudwyr o Romania a Bwlgaria ddechrau’r flwyddyn newydd.

Fe fydd cyfyngiadau ar fewnfudwyr o’r ddwy wlad yn cael eu codi o ddydd Mercher ymlaen, yn dilyn cyfnod o saith mlynedd fel aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae arolwg sy’n cael ei gyhoeddi ym mhapur newydd yr Observer heddiw’n dangos y bydd 68% o bobl Prydain yn croesawu pobl o ddwyrain Ewrop sy’n gweithio’n galed, talu trethi a siarad Saesneg.

Mewn arolwg arall yn y Sunday Telegraph, fodd bynnag, roedd ar 72% o’r ymatebwyr eisiau i David Cameron gadw cyfyngiadau ar fewnfudwyr o Romania a Bwlgaria – hyd yn oed petai hynny’n golygu torri cyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd mwyafrif o bobl yn arolwg yr Observer hefyd o blaid cyfyngu ar fudd-daliadau i bobl sydd wedi symud i Brydain o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Gadael yr Undeb Ewropaidd

Mae’r gwahaniaeth agweddau tuag at yr Undeb Ewropeaidd yn gyffredinol yn amlygu’u hunain hefyd yn y ddau arolwg.

Dim ond chwarter o ymatebwyr arolwg yr Observer oedd yn dweud y dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd pe ne bai’r rheolau ar fewnfudo i Brydain yn cael eu newid.

Ar y llaw arall, dywedodd bron i hanner 45% o ymatebwyr arolwg y Sunday Telegraph y bydden nhw’n sicr neu’n debygol o bleidleisio dros i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd petai refferendwm yn cael ei gynnal yfory. Roedd hyn yn cymharu â 37% a ddywedodd y bydden nhw’n sicrh neu’n debygol o bleidleisio dros aros i mewn.