Er bod heddiw’n ddiwrnod sych a heulog yma yn y rhan fwyaf o Gymru, rhagor o wynt a glaw sy’n cael eu darogan heno.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wyntoedd cryf rhwng hanner nos heno ac un o’r gloch bnawn yfory – ac am law trwm o hanner nos tan ddeg fore yfory.
Fe fydd gwyntoedd cryf yn taro’r rhan fwyaf o Gymru a rhannau o dde-orllewin Lloegr heno, cyn symud ymlaen i’r dwyrain.
Mae siroedd de Cymru’n debygol o ddioddef glaw trwm hefyd, ac mae rhybudd y dylai’r cyhoedd fod ar eu gwyliadwriaeth rhag llifogydd oherwydd bod y ddaear mor wlyb.
Un rhybudd llifogydd melyn sydd mewn grym ar hyn o bryd – a hynny yn ne Sir Benfro.
Roedd tua 600 o gartrefi ledled Prydain, gan gynnwys tua 100 yng Ngwynedd a Môn, yn dal i fod heb drydan y bore yma ar ôl stormydd y dyddiau diwethaf. Roedd y cyfanswm ledled Prydain i lawr i 130 erbyn y prynhawn yma.