Gyda rhagolygon am dorfeydd o gannoedd o filoedd yn Llundain nos Fawrth, mae’r heddlu’n apelio ar i ddathlwyr nos Galan fod ar eu gwyliadwriaeth rhag lladron.

Mae disgwyl y bydd torfeydd anferth yn gwylio’r arddangosiad tân gwyllt ar lannau Tafwys, ac y bydd Leicester Square a Trafalgar Square hefyd yn orlawn.

“Yn anffodus mae torfeydd mawr yn fagned i ladron sy’n chwilio am gyfle i gipio bagiau, waledi ac eiddo personol arall – felly byddwch ar eich gwyliadwriaeth,” meddai’r Prif Arolygydd Robyn Williams o Heddlu Llundain.

“Peidiwch â chludo dim byd nad oes arnoch ei angen. Maen arnon ni eisiau i bobl Llundain ac ymwelwyr â’r brifddinas allu croesawu’r flwyddyn newydd mewn amgylchedd diogel a rhydd o droseddau.”

Mae’r heddlu hefyd yn annog pobl sy’n awyddus i weld y tân gwyllt sicrhau eu bod yn cyrraedd mewn da bryd.

“Yn y gorffennol mae’r mannau gwylio wedi cau mor gynnar ag 8pm, felly gofalwch roi digon o amser i chi eich hun,” meddai’r Prif Arolygydd Williams.

Fe fydd strydoedd canol y ddinas wedi cau ar ôl 5pm ddydd Mawrth ac fe fydd 3,800 o blismyn ar ddyletswydd ar y noson.