Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn dweud eu bod “yn siomedig iawn” bod cyfarfod drefnwyd ar gyfer heddiw efo Vincent Tan, perchennog y clwb, wedi cael ei ganslo.
Cafodd y rheolwr Malky Mackay ei ddiswyddo ddoe gan y Cyfarwyddwyr ar ôl cynfod anodd iawn rhyngddo a’r perchennog, ac yn ôl Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Tim Hartley, mae’r cefnogwyr angen atebion i nifer fawr o gwestiynau ynglyn â thryloywder, sefyllfa ariannol y clwb ac ail-frandio.
“O gofio’r helyntion diweddar oddi ar y cae, rydyn ni’n credu ei bod yn bwysicach nag erioed bod Mr Tan yn bwrw ati i greu perthynas efo’r cefnogwyr. Roedd y cyfarfod yma yn rhoi cyfle gwych i Mr Tan adeiladu pontydd efo’r cefnogwyr a rwan mae’r cyfle wedi ei golli,” meddai.
Mae Vincent Tan wedi dweud y bydd yn cyfarfod yr Ymddiriedolaeth unwaith y bydd rheolwr newydd yn cael ei benodi.