Malky Mackay
Chafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ddim eu synnu o glywed bod Malky Mackay wedi cael ei ddiswyddo gan y Cyfarwyddwyr heddiw yn ôl datganiad gan Ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb.

Yn y datganiad mae’r cefnogwyr “yn diolch i Malky o waelod calon am ei gyfraniad anferthol i Ddinas Caerdydd” gan nodi mai ef aeth a’r clwb i’r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf.

“Does dim dwywaith ei fod yn un o’r rheolwyr gorau a mwyaf poblogaidd yn hanes Dinas Caerdydd,” yn ôl y datganiad.

“Roedd yr Ymddiriedolaeth yn ei chael hi’n hawdd iawn i ymdrin â Malky ac roedd yn angerddol am wneud ei orau i Ddinas Caerdydd.

“Roedd ganddo berthynas ardderchog efo’r cefnogwyr ac roedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cefnogwyr i unrhyw glwb.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn awgrymu y dylai perchennog y clwb, Vincent Tan, geisio gwella’r berthynas efo’r cefnogwyr trwy newid gwisg y clwb yn ôl i las yn lle’r coch presenol.

Rheolwr newydd yn bo hir

Mae yna ddatganiad moel ar wefan y clwb sy’n ychwanegu y bydd rheolwr newydd yn cael ei benodi cyn bo hir.

Mae ambell un yn awgrymu mai ole Gunnar Soskjaer sy’n rheoli cwlb yn Norwy fydd hwnnw.

Roedd pethau’n ddrwg rhwng Mackay a pherchennog y clwb Vincent Tan ers tro, ac roedd Tan wedi anfon e-bost ato yn dweud y dylai ymddeol neu gael ei ddiswyddo.

Fe gollodd Caerdydd yn erbyn Southampton 3 – 0 ddoe a hon oedd gêm olaf Malky Mackay.