Toby Faletau
Dreigiau 22 – 16 Gleision

Y Dreigiau gipiodd y fuddugoliaeth yn ail ddarbi Gymreig y dydd, a hynny’n haeddiannol ar Rodney Parade.

Roedd golwg fel petaent wedi bwyta gormod o dwrci ar ddynion Phil Davies ar ddechrau’r gêm wrth i’r Dreigiau reoli’r yn y chwarter agoriadol.

Ac fe ddangosodd yr oruchafiaeth wrth i dîm Lyn Jones sefydlu blaenoriaeth o 10 pwynt diolch i gic gosb gan Jason Tovey, a chais wedi’i drosi gan wythwr Cymru Toby Faletau.

Roedd y cais yn un nodweddiadol o dimau Lyn Jones, gyda symudiad wedi’i baratoi o linell yn rhyddhau Faletau i ruthro tua’r linell.

Er hynny, daeth y Gleision yn ôl gyda chais o ddim byd gan Kristian Dacey, cyn i Leigh Halfpenny drosi cic gosb i ddod â’r sgôr yn gyfartal ar yr hanner, 10-10.

Roedd yr ymwelwyr yn ffodus iawn i fod yn gyfartal mewn gwirionedd, ond ychydig wedi’r hanner roedden nhw’n arwain diolch i gic arall gan Halfpenny.

Cyn chwaraewr y Gleision, Jason Tovey gipiodd y penawdau wedi hynny yn trosi 4 cic gosb o 4 ymdrech, i ychwanegu ar ei record 100% yn yr hanner cyntaf.

Doedd cic arall gan Halfpenny tua’r diwedd ddim yn ddigon i’r ymwelwyr, ond y Dreigiau oedd yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth.

Timau:

Dreigiau: Daniel Evans; Will Harries, Pat Leach, Ashley Smith, Hallam Amos; Jason Tovey, Wayne Evans; Owen Evans, T Rhys Thomas, Nathan Buck, Andrew Coombs (c), Cory Hill, Netani Talei, Lewis Evans, Toby Faletau

Eilyddion: Sam Parry, Aaron Coundley, Francisco Chaparro, Rob Sidoli, Nic Cudd, Richie Rees, Steffan Jones, Ross Wardle

Gleision: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Dan Fish; Rhys Patchell, Lloyd Williams; Sam Hobbs (c), Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi, Robin Copeland

Eilyddion: Rhys Williams, Thomas Davies, Scott Andrews, Ellis Jenkins, Rory Watts-Jones, Lewis Jones, Gareth Davies, Richard Smith