Wrecsam 2–3 Alfreton

Colli fu hanes Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Iau wedi diweddglo cyffrous llawn goliau ar y Cae Ras.

Aeth Wrecsam ar y blaen yn yr hanner awr olaf ond tarodd Alfreton yn ôl cyn cipio’r pwyntiau i gyd gyda thrydedd gôl yn yr eiliadau olaf.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr cafwyd ail hanner llawer gwell. Methodd Neil Ashton gic o’r smotyn cyn i Mark Carrington roi’r tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail gyfnod.

Peniodd Michael Wylde yr ymwelwyr yn gyfartal yn fuan wedyn cyn i Job Ayo Akinde roi Alfreton ar y blaen.

Roedd hi’n ymddangos fod Leon Clowes wedi adfer pwynt i Wrecsam serch hynny cyn i’w cyn chwaraewr, Chris Westwood dorri eu calonnau gyda gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r Dreigiau yn disgyn un lle i’r pymthegfed safle yn nhabl y Gyngres gan i Macclesfield ennill yn Hyde.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Artell, Tomassen, Clowes, Ashton, Hunt, Anyinsah, Evans (Colbeck 78′), Carrington, Ogleby (Bailey-Jones 93′), Ormerod (Morrell 84′)

Goliau: Carrington 64’, Clowes 87’

.

Alfreton

Tîm: Worsnop, Wylde, Wood, Bradley, Kempson, Westwood, Rowe-Turner, McGrath (Shaw 46′), Meadows, Clayton, Akinde (Wishart 72′)

Goliau: Wylde 73’, Akinde 85’, Westwood 90’

Cerdyn Melyn: Wylde 90’

.

Torf: 3,371