Chelsea 1–0 Abertawe
Roedd gôl hanner cyntaf Edin Hazard yn ddigon i ennill y gêm i Chelsea wrth i Abertawe ymweld â Stamford Bridge yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Iau.
Roedd gôl Hazard yn un a oedd yn haeddu ennill gêm – torrodd y gŵr o Wlad Belg i mewn o’r asgell chwith cyn taro ergyd gywir heibio i Gerhard Tremmel.
Cafodd Alvaro Vazquez gyfle i unioni pethau i’r Elyrch ond llwyddodd Petr Cech i arbed ac roedd Abertawe’n eithaf ffodus mai dim ond un gôl oedd ynddi yn y diwedd mewn gwirionedd.
Daeth cyfleoedd gorau Chelsea i Samuel Eto’o ond gwnaeth Tremmel yn dda i’w atal ar ddau achlysur.
Mae Abertawe yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad.
.
Chelsea
Tîm: Cech, Ivanovic, Cole, Mikel, David Luiz, Terry, Mata (Schürrle 72′), Ramires, Eto’o, Oscar (Lampard 67′), Hazard (Willian 82′)
Gôl: Hazard 29’
Cerdyn Melyn: Ramires 86’
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Rangel, Taylor, Cañas (De Guzmán 61′), Amat, Williams, Pozuelo (Hernández 45′), Britton, Alvaro, Shelvey, Routledge (Bony 76′)
Cerdyn Melyn: Amat 86’
.
Torf: 41,111