Caerdydd 0–3 Southampton

Cafwyd protest yn erbyn Vincent Tan cyn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Iau ond wnaeth Malky Mackay a’i dîm fawr o argraff wedi i’r gêm ddechrau wrth i Southampton ennill yn gyfforddus diolch i dair gôl yn yr hanner awr cyntaf.

Sgoriodd Jay Rodriguez (dwy) a Ricky Lambert i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf, ac er i Gaerdydd wella wedi hynny, yn debyg iawn i’r wythnos diwethaf yn erbyn Lerpwl, roedd y difrod wedi ei wneud yn yr hanner cyntaf.

Agorodd Rodriguez y sgorio wedi llai na chwarter awr wrth rwydo ger y postyn pellaf yn dilyn gwaith creu Adam Lallana, ac roedd hi’n ddwy o fewn pum munud wedi i’r un chwaraewr daro foli daclus i gefn y rhwyd.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Adar Gleision wedi llai na hanner awr wrth i Lambert sicrhau’r tri phwynt gyda’r drydedd gôl. Roedd Rodriguez yn ei chanol hi eto gyda’r blaenwr yn creu gôl syml i’w gyd chwaraewr y tro hwn.

Wnaeth Southampton ddim ychwanegu dim at eu cyfanswm goliau yn yr ail hanner ond does dim dwywaith ei bod hi’n fuddugoliaeth gyfforddus.

Mae Caerdydd yn disgyn un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor (John 61′), Mutch, Caulker, Turner, Noone, Gunnarsson (Kim 81′), Odemwingie (Cornelius 45′), Campbell, Whittingham

Cerdyn Melyn: Noone 22’

.


Southampton

Tîm: Gazzaniga, Chambers, Shaw, Schneiderlin, Fonte, Yoshida, Rodriguez (Ramírez 86′), Cork, Lambert (Gallagher 93′), Davis, Lallana (Ward-Prowse 80′)

Goliau: Rodriguez 14’, 20’, Lambert 27’

Cardiau Melyn: Shaw 25’, Schneiderlin 48’

.

Torf: 27,929