Scarlets 6–10 Gweilch

Y Gweilch aeth â hi yng ngêm ddarbi’r gorllewin yn y RaboDirect Pro12 ar Barc y Scarlets brynhawn Iau.

Roedd y Scarlets ar y blaen am ran helaeth o gêm lawn cyffro tan i Ian Evans groesi am unig gais y gêm i’w hennill hi i’r Gweilch yn y munudau olaf.

Cywirdeb y cicwyr oedd yr unig beth yn gwahanu’r ddau dîm yn dilyn hanner cyntaf agos. Llwyddodd Rhys Priestland gyda’i unig gynnig i’r tîm cartref, ond methodd Dan Biggar ar ddau achlysur yn y pen arall, gyda chynnig am gôl adlam i ddechrau ac yna gyda chic gosb o’r llinell hanner

Methodd Biggar eto ar ddechrau’r ail hanner, gyda chyfle cymharol hawdd o ystyried ei safonau uchel arferol.

Llwyddodd Priestland ar y llaw arall gyda’i gynnig nesaf ef i ymestyn mantais ei dîm i chwe phwynt ond roedd y gêm i gyd fwy neu lai yn cael ei chwarae yn hanner y Scarlets erbyn hyn.

A bu bron i’r Gweilch groesi am gais toc cyn yr awr pan orffennodd Hanno Dirksen symudiad da yn y gornel dde, ond penderfynodd y dyfarnwr teledu fod ei ben glin wedi cyffwrdd yr ystlys cyn iddo dirio’r bêl.

Fe wnaeth Biggar gau’r bwlch gyda chic gosb yn fuan wedyn ond roedd y Scarlets dal ar y blaen gyda dim ond deg munud i fynd.

Y Gweilch serch hynny oedd yn haeddu ennill ac fe gawsant eu haeddiant diolch i gais Evans saith munud o’r diwedd. Tiriodd y clo yn dilyn sgarmes symudol o lein bump ac ychwanegodd Biggar y trosiad i wneud yn siŵr fod rhaid i’r Scarlets sgorio cais os am daro’n nôl.

Ceisiodd Bois y Sosban eu gorau i wneud hynny gyda chyfres o sgarmesoedd symudol eu hunain ond daliodd amddiffyn y Gweilch yn gryf i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r fuddugoliaeth honno’n codi’r Gweilch i ail safle tabl y Pro12 tra mae’r Scarlets yn aros yn chweched.

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 7’, 49’

.

Gweilch

Cais: Ian Evans 73’

Trosiad: Dan Biggar 74’

Cic Gosb: Dan Biggar 68’

Cerdyn Melyn: Alun Wyn Jones 79’

.

Torf: 14,796