Wycome 0–1 Casnewydd
Cododd Casnewydd i’r trydydd safle yn yr Ail Adran, am y tro pryn bynnag, gyda buddugoliaeth yn erbyn Wycome amser cinio ddydd Iau.
Roedd gôl Mike Flynn wedi hanner awr o chwarae yn ddigon i gipio’r tri phwynt i’r tîm o Gymru yn Adams Park.
Bu bron i Christian Jolley roi’r ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r ganner cyntaf ond tarodd ei gynnig ef yn erbyn y trawst.
Ond daeth y gôl agoriadol i Gasnewydd yn fuan wedyn pan gododd Flynn y bêl yn gelfydd dros Matt Ingram yn y gôl i Wycome.
Cafodd Jo Kuffour a Matt McClure gyfleoedd i unioni pethau i’r tîm cartref yn yr ail gyfnod ond daliodd Casnewydd eu gafael ar dri phwynt holl bwysig.
Mae’r pwyntiau hynny’n eu codi i’r trydydd safle yn y tabl am y tro er y gall sawl tîm godi trostynt yn hwyrach brynhawn Iau.
.
Wycome
Tîm: Ingram, McCoy, Wood, Bloomfield, Stewart, Hause, Arnold, Lewis, Kuffour (Cowan-Hall 74′), Morgan (McClure 45′), Kretzschmar (Knott 66′)
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Jackson Sandell, Worley, Oshilaja, Pipe, Flynn, Willmott (Naylor 78′), Jolley (Burge 88′, Washington (Crow 73′), Chapma
Gôl: Flynn 31’
Cerdyn Melyn: Jackson
.
Torf: 3,513