Mae staff cwrs rasio Cas-gwent yn croesi bysedd y bydd ras y Grand National Cymru yn mynd rhagddi ddydd Sadwrn – a hynny er gwaetha’r tywydd garw a’r glaw diweddar.
Fe fu’n rhaid i ras y llynedd gael ei gohirio oherwydd bod y cwrs yn rhy wlyb, cyn cael ei chynnal ar Ionawr 5 yn hytrach nac ar y Sadwrn wedi’r Nadolig.
Ddydd Llun yr wythnos hon, fe syrthiodd 45mm o law ar y cwrs yn Sir Fynwy, yn dilyn 41mm ddydd Sadwrn diwetha’. Ar hyn o bryd, mae arbenigwyr yn disgrifio’r tir fel un “trwm”, ond tir y mae hi’n bosib rasio arno.