Phil Davies - 'rhwystredig'
Mae’r Dreigiau a’r Gleision wedi gwneud chwech newid yr un wrth iddyn nhw baratoi i wynebu ei gilydd Ddydd San Steffan yn Rodney Parade yn y gyfres o gemau darbi Cymreig.
Yn yr haneri ac ymhlith yr olwyr y mae dau o’r prif newidiadau i’r Gleision wrth i Rhys Patchell ddod yn ôl i safle’r maswr a Gavin Evans yn ennill ei le yn y canol.
Mae yna newidiadau yn y pac hefyd – un o ran safle – a Chris Dicomidis yn dod i mewn yn yr ail reng a Jopsh Navidi yn y rheng ôl.
Yn ôl hyfforddwr y Gleision, Phil Davies, roedden nhw’n siomedig iawn o golli’n agos i’r Gweilch yn eu gêm ddarbi ddiwetha’.
Wayne yn lle Richie i’r Dreigiau
Yn yr haneri y mae un o newidiadau mwya’r Dreigiau hefyd, gyda Wayne Evans yn cymryd y crys 9 oddi ar Richie Rees.
Fe fydd dau newid yn y rheng flaen gyda Nathan Buck yn brop a T.Rhys Thomas yn dod yn ôl i safle’r bachwr ar ôl anaf.
Y Dreigiau
15 Daniel Evans, 14 Will Harries, 13 Pat Leach, 12 Ashley Smith, 11 Hallam Amos, 10 Jason Tovey, 9 Wayne Evans; 1 Owen Evans, 2 T. Rhys Thomas, 3 Nathan Buck, 4 Andrew Coombs (c), 5 Cory Hill, 6 Netani Talei, 7 Lewis Evans, 8 Toby Faletau.
Eilyddion: 16 Sam Parry, 17 Aaron Coundley, 18 Francisco Chaparro, 19 Rob Sidoli, 20 Nic Cudd, 21 Richie Rees, 22 Steffan Jones, 23 Ross Wardle.
Y Gleision
15 Leigh Halfpenny, 14 Alex Cuthbert, 13 Gavin Evans, 12 Dafydd Hewitt, 11 Dan Fish, 10 Rhys Patchell, 9 Lloyd Williams; 1 Sam Hobbs (c), 2 Kristian Dacey, 3 Benoit Bourrust, 4 Chris Dicomidis, 5 Filo Paulo, 6 Macauley Cook, 7 Josh Navidi, 8 Robin Copeland.
Eilyddion: 16 Rhys Williams, 17 Thomas Davies, 18 Scott Andrews, 19 Ellis Jenkins, 20 Rory Watts-Jones, 21 Lewis Jones, 22 Gareth Davies, 23 Richard Smith