Ben Davies gyda Michael Laudrup
Mae’r amddiffynnwr ifanc, Ben Davies, wedi ychwanegu blwyddyn at ei gytundeb gyda chlwb Abertawe.

Mae hynny’n golygu y dylai’r Cymro Cymraeg fod yn aros yn Stadiwm Liberty tan 2017.

Fe ddywedodd wrth gefnogwyr yr Elyrch fod y penderfyniad yn un hawdd.

“Mae hwn yn lle da i ddysgu a gwella yn enwedig gyda’r math o bel-droed y mae Abertawe’n ei chwarae.,” meddai. “Dw i’n teimlo fy mod i’n gwella trwy’r amser.”

Bachu ei gyfle

Yn ystod y tymor diwetha’, fe fachodd Ben Davies yn ei gyfle pan gafodd cefnwr arferol Abertawe, Neil Taylor, ei anafu.

Fe ddilynodd hynny gyda chapiau i Gymru ac mae wedi parhau’n ddewis cynta’ yn y Liberty.

Un o’i gryfderau  yw ei allu i ymosod i lawr y chwith.

Michu mas

Fe fydd y newyddion yn hwb i reolwr Abertawe, Michael Laudrup, wrth iddo wynebu cyfnod anodd y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd heb Michu, un o’i brif sgorwyr.

Mae’n bosib y bydd yr ymosodwr mas am chwech wythnos.