Aberdaron: cofnodi gwynt o 109myw
Mae stormydd cryf yn rhuo ar hyd a lled Cymru‘r bore yma ac mae’r gwasanaethau brys ac amgylcheddol yn cynghori pobl i fod yn ofalus iawn wrth deithio.

Gwynedd a Môn sydd yn diodde’r gwaethaf o’r gwynt ac mae gwynt o 109 milltir yr awr eisoes wedi cael ei gofnodi yn Aberdaron.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall y gwynt chwythu rhwng 60 a 90 milltir yr awr mewn mannau yn ystod y dydd gan wneud gyrru yn arbennig o anodd ar hyd yr arfordiroedd.

Mae’r Sarjant Ian Roberts o Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi trydar bod y gwynt yn gwneud gyrru’n beryglus gan annog pobl i ganiatau amser ychwanegol ar gyfer unrhyw siwrnai hanofodol.

Dywedodd llefarydd ar ran ystafell reoli’r heddlu bod polion trydan a choed wedi syrthio ym mhob rhan o’r gogledd a difrod wedi ei achosi i nifer o adeiladau.

Yn y de, mae’r pontydd dros y Cleddau a’r Hafren bellach ar gau hefyd oherwydd nerth y gwynt.

Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bryderus iawn hefyd am y perygl o ragor o lifogydd gan nad ydi’r tir wedi cael cyfle i sychu ar ôl y glaw cyn y Nadolig.

Mae yna wyth rhybydd oren o lifogydd mewn grym y bore yma ar gyfer afonydd Nedd, Tywi, Teifi, Llwchwr, Aman, Taf a Chynin, afonydd bychan ar hyd a llêd de Penfro a hefyd ar gyfer arfordir gorllewin Ynys Môn o Fae Cemlyn i Ynys Llanddwyn.

Disgwylir i hyd at 40mm o law syrthio mewn rhannau o dde a chanolbarth Cymru ac fe allai rhai ffosydd gael eu tagu gan ddail a llanast achoswyd gan y gwynt, gan unwaith eto achosi llifogydd.

Bydd y gwyntoedd cryfion yn symud tua’r dwyrain erbyn y prynhawn gan ostegu at y gyda’r nos ond bydd glaw yn parhau i achosi pryder yn ôl y Swyddfa Dywydd.