Y Pafiliwn Pinc
Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw y bydd y prifwyl yn 2013 yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych.
Fe fydd yn cael ei chynnal o 3 – 10 Awst ar dir Fferm Kilford ger Dinbych.
Roedd yr eisteddfod wedi ei chynnal yn yr un safle ddegawd yn ôl, yn 2001.
“Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ymweld â Dinbych ymhen dwy flynedd, gan edrych ymlaen i gynnal yr Eisteddfod ar dir Fferm Kilford,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Mae’n safle arbennig o dda, ac yn un a fu’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn 2001. Bu’r Eisteddfod honno’n llwyddiannus ac felly fe fydd yn braf iawn dychwelyd yno yn 2013.
“Mae pobl ardal Dinbych wedi bod yn awyddus i gynnig cartref i’r Eisteddfod ers tipyn, felly mae’n braf iawn bod mewn sefyllfa i gyhoeddi lleoliad yr Eisteddfod heddiw.
“Rydym yn gobeithio cychwyn ar y paratoadau’n fuan, a byddwn yn galw cyfarfod cyhoeddus cyn y Pasg er mwyn ennyn cefnogaeth pobl ym mhob rhan o’r sir, gan edrych ymlaen i gydweithio eto gyda thrigolion yr ardal.”
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Wrecsam eleni a Bro Morgannwg yn 2012.