Bandiau Cymraeg
Mae un o drefnwyr streic cerddorion BBC Radio Cymru wedi beirniadu’r gorfforaeth gan ei chyhuddo o fynd yn “groes i ddymuniadau streicwyr”.
Roedd rhai cerddorion Cymraeg wedi mynd ar streic ddoe, gan wrthod yr hawl i Radio Cymru ddefnyddio eu cynnyrch.
Ond roedd y BBC wedi chwarae caneuon gan gerddorion oedd ‘ar streic’ oedd dan hawlfraint y gorfforaeth, gan gynnwys caneuon oedd wedi eu recordio yn rhan o gyfres ‘C2: Sesiwn Unnos’.
“Roedden nhw wedi mynd yn groes i ddymuniad y streicwyr o leiaf bedair gwaith,” meddai Deian ap Rhisiart.
Dywedodd fod yr orsaf wedi chwarae caneuon MC Mabon, Siân James, Polaroids a Gwion Llewelyn – artistiaid oedd wedi ymuno â’r streic.
“Maen nhw wedi defnyddio Unnos ac er bod ganddyn nhw’r hawl i chwarae’r recordiadau, y cyfansoddwr sydd piau’r caneuon eu hunain,” meddai.
Roedd hynny’n “siomedig” ac yn “dangos nad ydyn nhw yn rhoi budd cyfansoddwyr yn gyntaf”, meddai.
Ateb y BBC
Dywedodd llefarydd ar ran BBC eu bod nhw’n cydymdeimlo â phryder y cerddorion, ond yn “parhau i chwarae cerddoriaeth Gymraeg o ffynonellau amrywiol, yn ogystal â sesiynau a recordiwyd gan Radio Cymru”.
Roedd y cerddorion wedi penderfynu streicio gan ddweud eu bod nhw’n haeddu mwy na 49 ceiniog y funud gan y Performing Rights Society am gael chwarae eu cerddoriaeth ar yr orsaf.
Ond mae Sian Gwynedd, Golygydd yr orsaf, eisoes wedi dweud nad oes gan yr orsaf unrhyw reolaeth dros daliadau PRS i gerddorion.
‘Prawf’
Mewn darn barn ym mhapur newydd y Cymro yr wythnos diwethaf, dywedodd Sian Gwynedd eu bod nhw wedi ysgrifennu at PRS i ddatgan eu pryder am y sefyllfa.
Dywedodd Deian ap Rhisiart fod angen “prawf” o ymdrech y gorfforaeth i roi pwysau ar y PRS.
Roedd aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi beirniadu’r BBC am eu “ddiffyg cefnogaeth” i frwydr cerddorion Cymraeg.
Dywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd Cyfathrebu’r Gymdeithas, wrth Golwg360 fod “diffyg cefnogaeth BBC Radio Cymru” yn “tanlinellu pryder y Gymdeithas mad yw’n briodol fod y BBC yn cymryd drosodd S4C”.